Mae Heb Ffiniau yn brosiect a freuddwydiwyd gan yr artist dawns Sarah Mumford yn 2021, crëwyd y wefan fel stiwdio ar-lein, gofod creadigol i bawb oedd yn rhan o'r prosiect i rannu gwaith a syniadau. Ar adeg pan nad oeddem yn gallu dod at ein gilydd, roedd yn anhygoel cael gofod lle gallem gysylltu’n rhithiol, roedd hefyd yn golygu bod ni'n gallu cydweithio, rhannu a chysylltu â phobl ledled Cymru a thu hwnt.
Gallwch ddarllen mwy am brosiect gwreiddiol Heb Ffiniau a gweld rhai o’r ymatebion creadigol syfrdanol ar dudalen archif y prosiect.
Mae Heb Ffiniau bellach yn cynnig gofod i rannu gwaith Sarah, a phrosiectau’r presennol a’r dyfodol, ond hefyd i rannu gwaith y bobl sy’n cydweithio ac yn rhoi cymaint o egni ac arbenigedd creadigol i’r prosiectau hyn.
‘I mi nid ymdrech unigol yw celf, mae o gyd am ddod a phobl at ei gilydd, i rannu, gwrando, cysylltu â chreu, a dyna le mae’r hud yn digwydd’
Sarah Mumford
Ychydig amdan Sarah
Diolch am alw heibio! Felly sut i ffitio dros ugain mlynedd o waith mewn i ychydig o eiriau? Wna'i rhoi cynnig arni!
Dechreuais fy hyfforddiant dawns yn SELTEC Llundain (Coleg Lewisham erbyn hyn), a chefais y fraint o gael fy nysgu gan diwtoriaid anhygoel. Roedd hyn mewn sawl ffordd yn brofiad gwych yn 17 oed, ond hefyd yn anodd. Ar ôl cwblhau'r cwrs sylfaen dawns, dychwelais yn ôl i Gymru.
Ar ôl dod adref gwnes i lawer o bethau gan gynnwys ychydig o waith fel tiwtor dawns, gweithio, syrcas, ymunais â band. Ond y digwyddiad mwyaf rhyfeddol a newidiodd fy mywyd oedd genedigaeth fy merch, mae hi yn anhygoel, ac y gallaf ei ddweud yn onest hi yw'r glud sy'n fy nal at ei gilydd. Symudon ni i Yorkshire lle wnes i gyflawni BA hons Dawns yng Ngholeg Bretton Hall. Ar ôl i mi raddio yn 2000 dychwelon ni (dros dro – rydw i dal yma!) i Gymru, a dechreuais ar fy llwybr fel artist dawns lawrydd.
Dyma flas byr i chi o’r hyn rydw i wedi bod yn ei wneud ers hynny!
Mae fy ngwaith wedi bod yn hynod amrywiol, o ddawns a theatr broffesiynol i brosiectau traws-gelfyddydol, theatr gorfforol a llawer o waith syrcas yn y dyddiau cynnar. Mae gen i brofiad helaeth mewn cymuned ac addysg, yn gweithio gyda grwpiau amrywiol, ac yn arbenigo mewn gwaith gyda phobl ifanc ac oedolion bregus, ac ymarfer cynhwysol mewn dawns a theatr. Mae fy ngwaith yn cynnwys gwisgo llawer o wahanol hetiau, arweinydd gweithdy, hwylusydd, perfformiwr, coreograffydd, cyfarwyddwr creadigol, cyfarwyddwr symud, gwisgoedd, rheolwr llwyfan, gweinyddwr, mae'r rhestr yn mynd ymlaen! Mae'n rhaid i chi fod yn andros o hyblyg yn gweithio yn y celfyddydau.
Dros y blynyddoedd mae cyfarwyddo symud ar gyfer cynyrchiadau theatr broffesiynol wedi dod yn rhan fawr o fy ngwaith, ac yn un o fy hoff hetiau!
Rwyf wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau, sefydliadau ac unigolion dros y blynyddoedd (byddwch yn falch o glywed nad wyf am eu rhestru i gyd!) yn fwyaf diweddar gwmni theatr Dirty Protest, hefyd cwmni theatr Graeae, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cwmni theatr Bara Caws, Cywaith Dawns Gogledd Cymru ac rwy'n gweithio’n gyson gyda Blas, Pontio a Chwmni Theatr Hijinx.
Rwy’n parhau i ddatblygu fy ymarfer creadigol fy hun, gyda diddordeb cynyddol mewn technegau symud somatig, er bod hyn yn deillio’n ôl i ddosbarthiadau Feldenkrais gyda Scott Clarke pan ddechreuais fy hyfforddiant yng Ngholeg Lewisham.
Ar ôl gwneud llawer o ddyfeisio a datblygu gwaith fy hun yn y dyddiau cynnar, rydw i'n gyffrous iawn i fod mewn man lle gallaf ganolbwyntio ar hyn eto. Dilynais lwybr mewn dawns oherwydd y gorfoledd a mwynhad a ddoth, ond hefyd oherwydd fy angen cynhenid i greu.