Gorlwyth
Lle dechreuodd y cyfan!
Yn 2021 bûm yn gweithio ar brosiect cydweithredol ymchwil a datblygu rhyngwladol Eye See Ai gyda chwmni theatr Hijinx a’r Mat Tran Ensemble a Tohe Fun yn Fietnam. Fe wnaethom greu perfformiadau byr yng Nghymru ar gyfer lleoliadau penodol yn Hanoi gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig, byddai'r gynulleidfa wedyn yn gallu gweld y perfformiadau yn y lleoliadau ar ffon symudol. Yn yr un modd crëwyd gwaith yn Hanoi ar gyfer lleoliadau penodol yng Nghaerdydd, Cymru.
Read more about Lle dechreuodd y cyfan!Archwilio gorlwyth
Yn ei hanfod mae'r cyfnod ymchwil a datblygu hwn yn ymwneud â neidio y tu mewn i ben rhywun, pa effaith y mae'r teimlad o orlwyth yn ei chael, pan fydd popeth yn mynd yn ormod, pan fyddwch chi'n teimlo na allwch anadlu, pan mai'r hyn sydd angen i chi ei wneud mewn gwirionedd yw stopio, ond mae pwysau bywyd yn golygu na allwch chi, neu na wnewch chi ac rydych chi'n ceisio dal ati.
Read more about Archwilio gorlwythCyfuno dulliau
Fel wnes i sôn, rydw i wedi fy nghyfareddu am be allith digwydd wrth ddod â dawns a theatr ynghyd, cymaint o bosibiliadau! Treuliwyd y dyddiau cyntaf yn edrych ar gyfuniad y ddau ddull, ac i ychwanegu at y synthesis cyffrous yma, y gerddoriaeth!
Read more about Cyfuno dulliauY Cerddoriaeth
Y gerddoriaeth, be fedrai ddeud? Anhygoel! Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda'r cyfansoddwr David Westcott, a dechrau ar siwrnai newydd.
Read more about Y CerddoriaethY tech
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau efo hyn, mae cymaint i'w ddweud am y dechnoleg, gallaf gadarnhau'n bendant ein bod wedi cael wythnos anhygoel yn datblygu syniadau ac yn archwilio sut i greu'r gofod ymdrochol hwn a'r profiad ymdrochol i'r gynulleidfa, roedd yn gyffrous iawn dod a'r holl elfennau gwahanol at ei gilydd ar gyfer y cyfnod ymchwil cychwynnol hwn, un o’r prif
Read more about Y tech