Amdan y prosiect

Mae ‘Heb Ffiniau’ yn brosiect ymchwil a datblygu sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng Iaith, Hunaniaeth a Thirwedd, a sut mae'r rhain yn siapio ein hymdeimlad o berthyn.

Rydym yn dod ag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol ynghyd, ac unigolion sydd â diddordeb a phrofiad eang mewn gwaith symud, perfformio a’r celfyddydau fel modd i ddatgloi deialog greadigol, a darparu gofod creadigol ar-lein i rannu ac archwilio syniadau. Ein bwriad yw ymateb ar y cyd i'r themâu yn ogystal â’r daith bersonol i bob unigolyn fydd ynghlwm.

Arweinir a chydlynir y prosiect gan yr artist dawns a theatr gorfforol Sarah Mumford, a anwyd a magwyd yng Ngogledd Cymru. Mae Sarah wedi gweithio ledled Cymru a thu hwnt, mewn meysydd cymunedol, addysg, dawns a theatr broffesiynol ers dros ugain mlynedd.

‘Ysbrydolwyd y prosiect wrth i mi edrych ar Hebraeg ysgrifenedig. Sbardunwyd fy nychymyg gan y siapiau a’r patrymau diddorol oedd lawn symudiad, gan greu ysfa i ddysgu rhagor. Wrth archwilio atseiniodd gerdd ‘Pine’ gan Leah yn gryf iawn gyda mi. Wrth ymgolli mwy yn y pwnc darganfyddais yr erthygl 'Teaching in Translation:These Pines' a ysgrifennwyd gan Adriana X. Jacobs, Athro Cysylltiol mewn Llenyddiaeth Hebraeg yn Rhydychen. Mae'r erthygl hon yn hynod ysbrydoledig ac yn arbennig o ddiddorol i mi gan ei bod yn cyfeirio dro ar ôl tro at symud mewn perthynas ag iaith a thirwedd. Gwelais y tebygrwydd rhwng y syniadau hyn â'm profiadau i yn tyfu i fyny ac yn byw yng Ngogledd Cymru; y tirwedd, yr iaith, a sut mae popeth yn newid ac yn addasu’n gyson. Dechreuais gwestiynu beth sy’n ein siapio? Beth sy’n ein cysylltu â lle? A beth mae ‘bod yn perthyn’ yn ei olygu mewn gwirionedd? Arweiniodd y syniadau hyn at y prosiect hwn. '

Sarah Mumford

Fel modd o gloi a dathlu'r gwaith, byddwn yn rhannu cofnod creadigol o’r broses yn gyhoeddus, gyda’r gobaith o ddatblygu’r syniadau ymhellach yn y dyfodol. Felly, gwyliwch y gofod hwn! Gallwch hefyd ein dilyn ar Instagram, i gael weld rhagor o’r broses.