Archwilio gorlwyth
Yn ei hanfod mae'r cyfnod ymchwil a datblygu hwn yn ymwneud â neidio y tu mewn i ben rhywun, pa effaith y mae'r teimlad o orlwyth yn ei chael, pan fydd popeth yn mynd yn ormod, pan fyddwch chi'n teimlo na allwch anadlu, pan mai'r hyn sydd angen i chi ei wneud mewn gwirionedd yw stopio, ond mae pwysau bywyd yn golygu na allwch chi, neu na wnewch chi ac rydych chi'n ceisio dal ati.
Ble mae'r llonyddwch?
Mae bywyd yn teimlo mor gyflym nawr, mae ein bywydau yn llawn gorlwyth o wybodaeth, llif o hysbysiadau, cyfryngau cymdeithasol, newyddion, materion cyfoes, hysbysebu, e-byst, technoleg sy'n newid yn barhaus, rydyn ni'n dal i fyny yn gyson, ac nid yw'n dod i ben .
I mi'r allanol sy'n effeithio ar y mewnol, ac yna'r effaith crychdonni ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n credu sy'n effeithio pawb ar ryw adeg, ac efallai bod gwraidd gorlwytho yn wahanol i wahanol bobl, ond dwi'n siŵr bod y teimlad a'r effaith yn eithaf tebyg, ac rydym i gyd yn rhannu'r byd yma sydd ddim yn stopio, dim yn cysgu, lle gallwch gysylltu ag unrhyw un ar unrhyw adeg, unrhyw le, lle mae gennym y byd yn ein poced, ond sut ydym ni'n ei reoli mewn ffordd gadarnhaol?
Er rydym yn gysylltiedig ar raddfa fyd-eang, rhywsut mae'n teimlo ein bod ni'n fwy datgysylltiedig â'n hunain, pobl eraill a'r byd ffisegol o'n cwmpas.
Gan ddod â chyfansoddwr, tri pherfformiwr a thîm creadigol ynghyd sy’n arbenigo mewn technoleg ymdrochi a delweddau a thafluniadau blaengar, bydd y cyfnod ymchwil a datblygu yn ein galluogi i ddechrau archwilio syniadau ar gyfer darn dawns/theatr ymdrochi, i ddatblygu cynnwys creadigol, ac archwilio sut y gall technolegau ymdrochi wella’r weledigaeth a’r cysyniad artistig wrth gynnal cyfanrwydd creadigol y gwaith.
Mae llawer o’m gwaith wedi arwain fi i waith theatr a chyfarwyddo symud, mae’n fy herio i feddwl mewn ffordd wahanol am symud, ac rwyf wastad yn darganfod ac yn archwilio dulliau newydd, mae pob actor a phrosiect yn wahanol ac felly rydych chi’n gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio bob tro. Yn dod o gefndir dawns rwyf wrth fy modd â'r synnwyr greddfol a corfforoldeb y gallwch ddarganfod wrth weithio gydag actorion, mae'n dod â rhywbeth gwahanol i broses. Rwyf wedi fy nghyfareddu gan y posibiliadau o ddod â dawnswyr ac actorion at ei gilydd, gan gymysgu'r genres, felly mae rhan o'r broses hon yn ymwneud â sut rydym yn gwneud hyn, sut gallwn wneud iddo weithio, a allwn wneud iddo weithio, sy'n gyffrous iawn.
Rydym wedi cael dechrau anhygoel i'r prosiect, gan gychwyn gyda symud, dyfeisio a chreu.
Dyma ychydig o luniau diwrnod 1 gyda'r artistiaid dawns Angharad Harrop ac Elan Elidyr, mae o wedi bod yn gymaint o bleser yn gweithio gyda'r ddwy yma! Dechreuon ni gyda'r syniad o ddatgysylltu.