Cyfuno dulliau
Fel wnes i sôn, rydw i wedi fy nghyfareddu am be allith digwydd wrth ddod â dawns a theatr ynghyd, cymaint o bosibiliadau! Treuliwyd y dyddiau cyntaf yn edrych ar gyfuniad y ddau ddull, ac i ychwanegu at y synthesis cyffrous yma, y gerddoriaeth!
Ymunodd Carys Gwilym, actor o'r Gogledd, a'r cyfansoddwr David Westcott a ni hefyd yn yr wythnos gyntaf.
Gallaf ddweud yn onest cawsom dridiau mwyaf rhyfeddol Roedd yn gyfnod hynod gynhyrchiol, creadigol, ac yn hyfryd. Daeth pawb ymlaen mor dda, ac i mi mae cael tîm sy'n gefnogol, greadigol, a jyst yn wych yn allweddol a dyna pryd mae'r hud yn digwydd!
Mae Carys a minnau wedi cydweithio llawer dros y blynyddoedd, mae hi'n berfformiwr mor wych, yn hynod amryddawn ac yn hollol barod i roi cynnig ar unrhyw beth. Yn ystod y cyfnod ymchwil a datblygu treuliwyd llawer o amser yn gweithio ar fonolog, roedd hyn yn … sialens!
Dechreuais trwy ysgrifennu dau fersiwn, ac un peth rwy'n dda am yw ysgrifennu llwyth, ond roedd dod o hyd i'r union deimlad roeddwn yn chwilio am yn eithaf anodd i fod yn onest, o ni'n gwybod yn union be o ni eisiau i'r darn, ond ddim yn sicr sut i gyrraedd hyn. Roedd Carys yn anhygoel, ac yn gweithio'n ddiflino ar y monolog, roedd yn bwysig i mi ei bod hi'n dod o hyd i'w llais ei hun, ac fe wnaethon ni leihau, lleihau, lleihau a dod yn agos iawn erbyn diwedd y cyfnod ymchwil a datblygu i'r hyn roeddwn i'n gobeithio amdano. Yna ei addasu i fod yn ddwyieithog, mae'r clod i gyd yn mynd i Carys am hyn!
Mae'r broses ymchwil a datblygu yn hynod ddiddorol, gan wybod beth rydych chi'n anelu am, ac yna'r broses greadigol o geisio cyrraedd y nod. Gyda'r monolog roeddwn yn bendant ar ôl rhywbeth y gall y gynulleidfa gysylltu efo, sy'n atseinio, ond hefyd gydag elfen gomig.
Gan ddibynnu pa ffordd edrychwch arno, gellid dehongli’r syniad o orlwytho, y straen, yr effaith gorfforol a meddyliol fel pwnc trwm i’w gymryd, felly roedd cynnwys hiwmor mor bwysig, a buom yn gweithio’n galed iawn i ddod o hyd i’r teimlad cywir. Mae'n rhaid i berfformiad cynnwys newidiadau mewn egni, yr adegau pan mae'r egni yn codi ac wedyn tawelu, ac yna codi eto, i mi dyma sy'n tynnu pobl i mewn ac yn ei gadw'n ddiddorol a deniadol.
Roeddwn i hefyd eisiau dod a'r tri pherfformiwr at ei gilydd, felly treuliasom amser yn edrych ar y coreograffi, y naratif, mewn ffurf eithaf haniaethol ar y pwynt yma, ond gyda bwriad clir iawn, yn dod a chymeriad Carys i mewn i'r darnau corfforol (mae hi yn wych efo gwaith corfforol!). Wrth gwrs does byth digon o amser i wneud pob dim, felly mae yna digon i'w ddatblygu ac edrych arno eto, ond mewn cyfnod mor fyr fe wnaethom gyflawni cymaint, ac mae'r cyfan yn gyffrous iawn.
Ymunodd Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws a ni ar y dydd Gwener. Roedd cael llygad allanol mor ddefnyddiol, a rhywun yn cynnig persbectif a dulliau gwahanol o greu. Gofynnodd Betsan filiynau o gwestiynau, yn annog fi i feddwl a chysidro pethau gwahanol. Mae rhywbeth hynod ddiddorol, rwy’n meddwl sy’n mynd yn ôl i hyfforddiant, am y gwahaniaeth rhwng creu gwaith dawns a theatr. Pan fydda'i yn dechrau creu, mae'r synnwyr yn dod allan o'r gwneud, y proses dyfeisio, ac nid oes angen bob tro' wybod yr ateb i bob cwestiwn, hefyd rydych yn caniatáu i'r gynulleidfa ddod o hyd i'w hystyr eu hunain o fewn y gwaith. Ond gyda sgript mae'r ffocws o'r ddechrau ar ddeall y cymeriadau, eu cymhelliant, y naratif, ac rydych chi'n ceisio cyfathrebu rhywbeth hynod o benodol. Felly, y sialens oedd dod o hyd i gymeriad a naratif, a bod hyn yn gweithio o fewn fframwaith coreograffi mwy haniaethol. I mi mae'n mynd yn ôl eto at yr hyn yr ydych am i'r gynulleidfa deimlo, i'w brofi.
Fel dywedais i 'dwi'n dda iawn am ysgrifennu llwyth! Cymaint i'w ddweud a dwi ddim hyd yn oed wedi sôn am y gerddoriaeth eto a gwaith anhygoel David Westcott, felly dyna fydd y blog nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at rannu mwy, a hefyd lot mwy i ddod am weddill y tîm hefyd!
Dyna ni am y tro…