Y Cerddoriaeth
Y gerddoriaeth, be fedrai ddeud? Anhygoel! Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda'r cyfansoddwr David Westcott, a dechrau ar siwrnai newydd.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd aeth David ymlaen i gwblhau gradd meistr mewn cyfansoddi cerddoriaeth ffilm yn y London College of Music. Mae ganddo flynyddoedd o brofiad proffesiynol, a byswn yn eich annog i fynd i chwilio am dudalen Instagram David a gwrando ar ei gerddoriaeth ... mae wir yn rhyfeddol!
Wnes i gyfarfod David yn ystod y pandemig drwy rwydwaith celfyddydau ar-lein. Cawsom alwad Skype i gyfarfod ‘go iawn’, a dod ymlaen mor dda yn syth bin, gan sgwrsio am syniadau, cerddoriaeth, dawns, a fy nghysyniad cychwynnol am y prosiect yma – fi yn mwydro lot am wifrau mwy na dim arall!
Weithiau mae'n anodd cyfleu syniad, ac i rywun arall geisio creu llun o'r edefyn o syniad sydd yn eich pen, felly roedd dod o hyd i rywun roedd yn rili deall be oeddwn i'n anelu at a'r cysyniad artistig yn anhygoel. Gwnaeth y sgwrs gychwynnol hon gyda David wneud i mi sylweddoli bod syniad Gorlwyth yn un da ac yn rhywbeth ddylwn i ddilyn.
Cymerodd amser o’r sgwrs greadigol gyntaf hon i roi popeth yn ei le ac wrth gwrs sicrhau cyllid a chefnogaeth ar gyfer y cam cyntaf hwn o ymchwil a datblygu.
Roedd cael mewn i'r gofod, a'r diwrnodau cyntaf gyda'r perfformwyr a David yn canolbwyntio'n wirioneddol ar y dyfeisio a'r creu yn wych. Mae'n eithaf anodd ysgrifennu am y broses oherwydd nid wyf yn siŵr y gallwch chi roi hyn mewn geiriau a chael gwir hanfod yr egni a'r wefr yn y gofod. Datblygwyd y syniadau mewn ffordd gwbl gydweithredol, y gwaith symud yn tanio’r gerddoriaeth, y gerddoriaeth yn sbarduno datblygiad pellach y gwaith corfforol, roedd llif gwirioneddol i’r broses.
Y peth sydd wedi fy nharo fwyaf wrth feddwl am y broses yw bod David a minnau yn gweithio mewn ffordd emosiynol iawn. Mae’n ymwneud â dal hanfod rhywbeth, yr egni, y teimlad, ac nid yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei roi mewn geiriau oherwydd mae'n dod o rywbeth cynhenid ynom ni i gyd. Rhywbeth cynhenid o bwll y bol, teimlad, a'r peth rhyfeddaf i mi oedd teimlo bod David yn gallu clywed beth oedd yn fy mhen (neu fel dawnsiwr, efallai yn fy nghorff), a daeth â'r cysyniad ac egni'r gwaith yn fyw trwy'r gerddoriaeth.
Mae’r gwaith hwn yn ymwneud a gwir canolbwyntio a mireinio’r synhwyrau, a’r gynulleidfa’n cael ei thrwytho ac yn rhan weithredol o’r profiad synhwyraidd hwn. Mae’r gerddoriaeth yn amlwg yn dod â chymaint i’n harwain drwy’r daith. Cysylltodd David y gwahanol ddarnau cerddorol hefyd drwy thema neu edefyn cyffredinol, a oedd yn hynod ddiddorol i mi, ac yn ffordd gydlynol o dynnu’r gwahanol rannau at ei gilydd. Un peth oedd yn ddelfrydol i mi oedd bod angen y shifft yn yr egni o fewn y gwahanol ddarnau, y codiad a’r cwymp, y golau a’r dwys, a’r teimlad o rollercoaster o egni trwy gydol y gwaith. Un sylw gan aelod o’r cynulleidfa yn y dangosiad ar ddiwedd y prosiect oedd, ‘I liked the pace, the rolling of the energy’. Dyma'n union roeddwn i’n anelu ato.
Peth arall roedd yn ddiddorol trwy archwilio hyn roedd darganfod y dwyster trwy’r elfennau unigol, un yn dod i’r blaen tra bod yr elfennau eraill yn ei gefnogi ac yna symud i un arall. Nid oes rhaid i’r egni ddod o’r holl elfennau i gyd ar unwaith, mae'n ymwneud â dod o hyd i'r balans cywir yn y cyfanwaith.
Gyda’r ffocws ar ddyfeisio a chreu, un peth nad oedd gennym ni amser i’w archwilio oedd asio digidol gyda’r clasurol. Dyma yn bendant y cam nesaf, ac mae’n rhywbeth mae David yn awyddus i’w archwilio. Fe wnaethon ni edrych ar chwarae gyda sain wedi'i recordio ymlaen llaw a cherddoriaeth fyw. Roedd hyn yn gweithio'n dda, gan ddod â dimensiwn arall eto i'r perfformiad. Roeddwn i wir eisiau archwilio rhoi llwyfan i gerddoriaeth fyw o fewn y gwaith, nid yn unig fel cyfeiliant i'r perfformwyr, ond yn ei rinwedd ei hun. Mae gennym hefyd syniadau am ddod â cherddor arall i mewn fel rhan o’r naratif yn natblygiad y gwaith, sy’n wirioneddol gyffrous.
Cymaint o syniadau! Dyma sydd wedi bod yn anhygoel am y cam cyntaf hwn o archwilio, wrth i syniadau ddatblygu mae mwy o syniadau wedi dod, a dweud y gwir y peth a glywais fwyaf gan y tîm yn ystod y cyfnod ymchwil a datblygu oedd ‘Mae gen i syniad!’
Byswn wrth fy modd yn rhannu rhywfaint o'r gerddoriaeth, ond rwyf hefyd yn ymwybodol ei bod hi'n well peidio rhannu gormod, yn enwedig ar y pwynt yma yn y broses. Fel arall mae ychydig fel gweld un o'r rhag hysbysebion ffilm sy'n dangos y ffilm gyfan fwy neu lai, sydd wedyn yn gadael gwylio'r ffilm ei hun yn dipyn o ymdrech ddibwrpas!
Felly dyna ni am y tro, mwy am y dechnoleg yn dod yn fuan!