Y tech
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau efo hyn, mae cymaint i'w ddweud am y dechnoleg, gallaf gadarnhau'n bendant ein bod wedi cael wythnos anhygoel yn datblygu syniadau ac yn archwilio sut i greu'r gofod ymdrochol hwn a'r profiad ymdrochol i'r gynulleidfa, roedd yn gyffrous iawn dod a'r holl elfennau gwahanol at ei gilydd ar gyfer y cyfnod ymchwil cychwynnol hwn, un o’r prif bethau yr oeddwn am ei archwilio oedd a fyddai dod â’r gwahanol elfennau at ei gilydd yn gweithio’n artistig ac yn gysyniadol. Rhwng ein profiad yn archwilio hyn ac adborth y gynulleidfa o'r dangosiad, roedd cyfuno'r disgyblaethau yn llwyddiant mawr, a rhoddodd brofiad unigryw iawn o berfformiad byw i’r gynulleidfa.
Roedd gennym dîm tech mor anhygoel, gyda llwyth o brofiad proffesiynol, ac a oedd mor ymrwymedig yn y gwaith a'r broses. Ein her fwyaf yn ystod yr wythnos ymchwil a datblygu oedd amser, a dim ond y wyneb y gwnaethom gyffwrdd, mae cymaint mwy i'w archwilio. Mae posibiliadau technoleg ymdrochol yn chwalu'r meddwl, a gyda'r adnoddau cywir a chefnogaeth allwn fynd â'r syniadau cychwynnol hyn ymhellach o lawer. Rydym yn gobeithio cael ail gam ymchwil a datblygu yn ddiweddarach eleni a fydd yn rhoi’r cyfle i ni dreulio llawer mwy o amser ar y rhyngweithio rhwng y dechnoleg a’r perfformwyr, ac i edrych ymhellach ar sut rydym yn defnyddio’r gofod.
Tîm tech y prosiect yw’r dylunydd goleuo Ceri James, a’r arbenigwyr arloesi digidol Robin Moore a Klaire Tanner.
Roeddwn yn falch iawn bod Robin wedi gallu ymuno â thîm creadigol Gorlwyth, buom yn cydweithio ar brosiect Eye See Ai gyda Hijinx, lle y dechreuodd hadau’r syniad yma, a phryd wnes i ddarganfod byd cyfan o dechnoleg na wyddwn fawr ddim amdani. Gan ddod â'i arbenigedd i'r gofod edrychodd Robin ar archwilio a datblygu integreiddio'r perfformiad byw gyda thechnoleg AR (Augmented Reality). Mae Klaire Tanner yn gweithio gyda Animated Technologies yng Ngogledd Cymru, ac unwaith eto roedd yn wych bod Klaire yn rhan o'r project ac yn dod â rhywbeth gwahanol iawn i'r bwrdd. Treuliodd Klaire yr wythnos yn datblygu cynnwys VR (Virtual Reality) ac yn edrych ar sut y gallem integreiddio hyn i'r gwaith. Buom yn gweithio gyda'r perfformwyr, gan ddal eu symudiadau a datblygu cymeriadau digidol trwy animeiddiadau ac AR, 'realtime' 3D a rhaglenni sy'n defnyddio 'games engines'.
Yn bendant ni fyddem wedi cyflawni’r hyn a wnaethom heb y cynllunydd goleuo Ceri James, mae ganddo flynyddoedd o brofiad proffesiynol, ac er bod y ddau ohonom yn gweithio yn y maes theatr yng Nghymru yn rhyfedd iawn nid yw ein llwybrau wedi croesi o’r blaen, ond rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda fo. Trawsffurfiodd Ceri'r stiwdio, gan fynd â ni i fyd gwahanol, gan greu dyfnder, ac adleisio eiliadau tawel a dwys y gwaith yn hyfryd trwy’r elfennau gweledol a’r goleuo. Roedd cael dylunydd nid yn unig yn cydweithio’n artistig ond hefyd yn cyfrannu at yr elfennau ymarferol yn amhrisiadwy. Gan weithio ar gysyniad sydd mor dechnegol, roeddwn angen rhywun gyda'r arbenigedd i allu cadarnhau a oedd y gwahanol syniadau yn bosibl ac yn ymarferol yn y gofod, a chyda'r adnoddau ar gael. A hefyd yn edrych ar ddatblygiad y gwaith a photensial teithio i wahanol leoliadau a sicrhau ein bod yn creu gwaith a fydd yn gweithio mewn gwahanol leoliadau, felly roeddwn yn ddiolchgar iawn am fewnbwn ac arbenigedd Ceri.
Roedd dod â’r gwahanol elfennau ynghyd o ddechrau’r broses yn wirioneddol bwysig i mi, ac roedd y dechnoleg yn amlwg yn rhan enfawr o hyn. Mae’n ddiddorol fod Klaire, Robin a Ceri wedi gweithio’n wirioneddol gydweithredol i ddatblygu’r cynnwys a gwireddu’r cysyniad, ac roedd yn anhygoel gwylio pa mor gyflym y datblygodd hyn, a gyda mwy o amser sut y gallai hyn ddatblygu ymhellach. Mae gweithio gyda’r math yma o dechnoleg flaengar mor gyffrous ag rydym wedi trafod cymaint o bosibiliadau, fel y potensial o allu gwylio perfformiad byw trwy VR, neu greu fersiwn o’r perfformiad i’w brofi trwy VR yn unig mewn hybiau rhithwir neu o adref. Gan edrych hefyd ar y gwahanol fathau o dechnoleg AR sy'n cynnig gwahanol ddulliau creadigol, cefais fy nenu'n fawr at effeithiau gweledol AR a VR nid oedd wedi'i ddatblygu'n llawn, ac mae hyn yn rhywbeth hoffwn ei archwilio ymhellach.
Gofynnodd rhywun i mi wrth sgwrsio am y prosiect ‘Ond a oedd mewn gwirionedd yn waith ymdrochol?’ roedd un o aelodau ein cynulleidfa gerllaw ac ymatebodd ‘Oedd!’ yr adborth gorau y gallem ei gael mewn gwirionedd, yn enwedig am y cam gyntaf o’r proses ymchwil a datblygu.
Rhywbeth oedd yn hynod ddiddorol i mi oedd y disgrifiad o un aelod o’r gynulleidfa o’u profiad, fe wnaethon nhw ddisgrifio bod y rhannau am orlwyth yn teimlo'n eithaf dwys, weithiau’n llethol, ond pan wnaethon ni newid i ofod tawelach, roedden nhw’n teimlo’n dawel ac wedi ymlacio. Unwaith eto, i mi mae hyn yn adborth perffaith, fy nod oedd mireinio’r synhwyrau, creu gofod lle mae’r gynulleidfa’n profi’r gwahanol gyflyrau meddwl hyn, nid yn unig yn gwylio syniad, ond yn cymryd rhan weithredol yn yr hyn sy’n digwydd. Mae hyn oll yn ymwneud â chreu gwaith sy’n atseinio gyda phobl, amlygu’r cyfarwydd, ond ei droi ar ei ben a chynnig safbwynt gwahanol. Mae gennyf ddiddordeb yn yr ymateb niwroffisegol o orlwytho, yr effaith y mae hyn yn ei chael arnom yn ein bywydau bob dydd, ond wedyn sut mae hyn yn gweithio pan fyddwch yn ei gario drwodd i berfformiad ymdrochol, y gofod rhithwir yn adleisio ein gofod go iawn.
Cymaint i feddwl amdano! Ond heb oedi, mwynhewch y fideo hwn sy'n cynnig cipolwg ar rywfaint o'r broses ymchwil a datblygu, gyda thrac sain ddigidol newydd wedi'i greu gan gyfansoddwr David Westcott.
Diolch i Klaire Hodgson am roi'r golygiad hwn at ei gilydd.
Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyllid y Loteri Genedlaethol a gefnogwyd gan Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio.