Be mae iaith yn ei olygu i chi? 'Calon ac Awyr'

Croeso!

Rydyn ni'n gyffrous iawn heddiw i ddod â rhai o'r ymatebion unigol gan artistiaid oedd yn rhan o'r prosiect. Gofynnwyd tri chwestiwn yn ystod y prosiect, y cyntaf oedd 'Beth mae iaith yn ei olygu i chi?'

Llwyddodd artistiaid i ymateb yn greadigol i'r cwestiwn mewn unrhyw gyfrwng creadigol o'u dewis, ac mae'r ymatebion wedi bod yn rhyfeddol. Pan ddechreuais feddwl am y syniad hwn fel prosiect am y tro cyntaf, roedd yn bwysig iawn imi gynnwys cymaint o leisiau gwahanol â phosibl, a hefyd caniatáu rhyddid i bawb archwilio'r cwestiynau ac ymateb ym mha bynnag ffordd a ddewisant.

Mae Heb Ffiniau yn cyfieithu i 'Without Boundaries', a dyna'r ethos y tu ôl i'r prosiect mewn gwirionedd, i fedru siarad, archwilio, rhannu a chreu heb ffiniau.

Mae'r holl ymatebion a rennir dros yr wythnosau nesaf yn rhan o'r broses ymchwil a datblygu, hadau syniadau, ac nid darnau o waith gorffenedig, rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n gysylltiedig am fod yn agored i rannu peth o'r broses yn gyhoeddus.

Heddiw rydyn ni'n dod ag ymatebion hyfryd i chi gan Faye Wiggan, a Lara Ward. Mae'r rhain yn ymatebion i'r cwestiwn 'Beth mae iaith yn ei olygu i chi?'

Ymatebodd Faye gyda dau ddarn hyfryd o waith, sydd wir yn dod o'r galon. Mae Faye yn berfformiwr ac yn actor gyda Hijinx, un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop, dyma ychydig eiriau gan Faye -

'Rydw i wedi bod yn canu, actio a dawnsio ers pan oeddwn i'n 5 oed, rydw i mewn i farddoniaeth ac ysgrifennu caneuon. Fe wnaeth Heb Ffiniau fy helpu i archwilio pwy ydw i a gweithio gyda phobl hyfryd newydd. Rwyf wrth fy modd â ffotograffiaeth ac rwy'n eithaf anturus, rwyf wrth fy modd efo dringo. Ar ôl i'r clo mawr dod i ben byddwn i wrth fy modd yn teithio'r glôb. '

'Be mae iaith yn ei olygu i mi?' 

- Faye Wiggan

Daw ein hail ymateb heddiw gan Lara, artist dawns yn Ne Cymru, mae ganddi brofiad helaeth o weithio a theithio fel dawnsiwr llawrydd, a hefyd ym maes rheoli celfyddydau cymunedol. Gallwch ddod o hyd i Lara ar Instagram a dilyn ei Podlediadau Sgyrsiau Artist cyfredol yma.

Mewn ymateb i'r cwestiwn 'Beth mae iaith yn ei olygu i chi?' Soniodd Lara am yr amser a dreuliwyd y tu allan yn meddwl am y cwestiwn ac yn edrych i fyny ar y cymylau ac ehangder yr awyr. I mi mae'r ymateb hwn yn crynhoi ehangder y cwestiwn yn llwyr, mae'n gwestiwn mor fawr, efallai'n rhy fawr i'w ateb, ac mae'r gwaith hwn yn adlewyrchiad hyfryd o hynny.

'Iaith - man cyfarfod yn yr awyr'

 - Lara Ward

Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r cipolwg cyntaf hwn ar y broses ymchwil a datblygu. Diolch am stopio heibio, dewch yn ôl yn fuan!