Croeso i ein tudalen galeri newydd!

Croeso mawr os ydych wedi dod o hyd i'n tudalen galeri newydd! Mae gennym lawer o newyddion cyffrous yn dilyn dathliad Heb Ffiniau, a diolch enfawr i bawb a ymunodd â ni! Nawr gallwch wylio pob un o'r tri fideo Heb Ffiniau ar un ddolen, gan gynnig cyfle i'r gwyliwr weld y gwaith rhyfeddol wrth iddo amlygu drwy’r broses ymchwil a datblygu.

Hefyd rydym wedi bod yn brysur yn tacluso’r y stiwdio ar-lein gan fod llawer ohonoch chi wedi bod yn gofyn i weld mwy! Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhannu rhai o'r ymatebion unigol, a mwy am y prosiect a'r broses.

Rwyf mor ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'i wneud yn gymaint o lwyddiant, am fod mor gefnogol, bod yn agored i weithio mewn ffyrdd newydd, am rannu cymaint, am y chwerthin, y dagrau, a'r dawnsio! Mae wedi bod yn fraint wirioneddol ac yn daith eithaf emosiynol!

Dyma'r ddolen ar gyfer fideos y prosiect, a diolch enfawr i Yoni Bitterman am ei holl waith yn dod a nhw at ei gilydd, ac am greu traciau sain wreiddiol a hudolus i gyd-fynd â phob fideo.

 

 

 

Diolch i Ganolfan Gelf Pontio a Chwmni Theatr Hijinx am eu holl gefnogaeth, ac wrth gwrs i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu'r prosiect a'i wneud yn bosibl.

Mae croeso i chi ymuno â ni hefyd ar-lein am sesiynau symud Heb Ffiniau, cyfle i symud, anadlu ac ymlacio yn eich ffordd eich hun yn ofod eich hun! Archebwch trwy Pontio.

Diolch yn fawr am alw heibio, a dewch yn ôl yn fuan i weld ychydig mwy o'r gwaith rhyfeddol hwn!